Caer Rufeinig Caerllion
From Wikipedia, the free encyclopedia
Lleng-gaer enfawr o'r cyfnod Rhufeinig ydy Caer Rufeinig Caerllion, Caerllion, Sir Casnewydd; cyfeiriad grid ST338906. Dyma bencadlys y Rhufeiniaid yn eu hymgyrch i orchfygu brodorion De Cymru.
Math | adeilad Rhufeinig, safle archaeolegol, caer Rufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerllion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6103°N 2.9589°W, 51.609862°N 2.956499°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MM252 |
I'r Rhufeiniwr o leng Legio II Augusta, fel "Isca Silurum" gan mai yn nhiriogaeth y Silwriaid yr oeddent neu fel 'Isca Augusta yr adnabyddid y lleng-gaer hon. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74 OC, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r 4g. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg.
Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM: MM252, MM230 ac eraill.[1]
Mae olion Rhufeinig wedi cael eu darganfod yn ddiweddar mewn rhan arall o Gaerllion, sef, "The Mynde".[2]
Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur.