Cerddoleg
astudiaeth cerddoriaeth / From Wikipedia, the free encyclopedia
Disgyblaeth academaidd sy'n ymwneud â cherddoriaeth yw cerddoleg.[1] Mae'n cwmpasu pob agwedd o gerddoriaeth, ac eithrio yr arfer o berfformio a chyfansoddi ei hun, hynny yw hyfforddiant cerddorol. Un o feysydd y dyniaethau yw cerddoleg. Mewn astudiaethau hanesyddol mae gwreiddiau'r maes, a datblygodd yn hwyrach i grybwyll dadansoddiad a damcaniaeth. Yn hanesyddol bu pwyslais ar gerddoriaeth Ewrop a cherddoriaeth glasurol yn enwedig,[2] ond bellach caiff pob genre, cyfnod, a diwylliant ei astudio gan y cerddolegydd. Rhennir cerddoleg yn is-feysydd: ffurf a nodiant, bywydau'r cyfansoddwyr a'r cerddorion, datblygiad offerynnau cerdd, damcaniaeth cerddoriaeth, ac estheteg, acwsteg, a ffisioleg.[3]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd, gradd academaidd |
---|---|
Math | music, Geisteswissenschaften, diwyllianneg |
Rhan o | Q113296040 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau