Chwilog
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Chwilog ( ynganiad ) yn bentref bach yng ngorllewin Eifionydd, yng Ngwynedd, rhwng Pwllheli a Llanystumdwy. Saif ar lan Afon Wen, sy'n rhedeg i Fae Tremadog filltir islaw'r pentref. Mae'n rhan o gymuned Llanystumdwy.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanystumdwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9197°N 4.3303°W |
Cod OS | SH433383 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Agorwyd Ysgol Gynradd Chwilog yn 1908 gan Mrs Margaret Lloyd George, gwraig y gwleidydd enwog David Lloyd George.