Colin Jackson
rhedwr clwydi o Gymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyn-athletwr sbrint a ras glwydi Cymreig yw Colin Ray Jackson CBE (ganwyd 18 Chwefror 1967). Ganwyd Jackson yng Nghaerdydd, a daw o dras Jamaicaidd, Maroon, Taino (Americanwyr brodorol), ac Albanaidd. Wedi ymddeol fel athletwr gweithiodd fel sylwebydd chwaraeon, ar y BBC yn bennaf. Daliodd record y byd ras clwydi 110 metr rhwng 1993 a 2006. Ef yw deilydd presennol record y byd ras glwydi 60 metr a deilydd record ras glwydi 110 metr Gemau'r Gymanwlad.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Colin Jackson | |
---|---|
Ganwyd | Colin Ray Jackson 18 Chwefror 1967 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 182 centimetr |
Pwysau | 75 cilogram |
Gwobr/au | CBE |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru, y Deyrnas Unedig |
Cau