Condom
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfais ar gyfer cyfathrach rywiol, wedi'i wneud o latecs neu bolywrethan yw condom. Fe all dyn wisgo condom ar ei bidyn yn ystod cyfathrach rywiol, er mwyn rhwystro rhag i semen y mae'n alldaflu myned i gorff ei gymar. Defnyddir condomau fel dull o atal beichiogrwydd, neu i rwystro trosglwyddiad heintiau a drosglwyddir yn rhywiol megis gonorea, syffilis a HIV.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | contraceptive, women's health |
---|---|
Math | male contraceptive |
Deunydd | rwber naturiol, latex, Polywrethan, synthetic rubber |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae'r erthygl hon yn sôn am yr atalydd cenhedlu gwryw. Am yr atalydd cenhedlu benyw, gweler condom benyw. Am y dref yn Ffrainc, gweler Condom, Gers.
Ceir hefyd Condom Benywaidd ar gyfer defnydd y tu fewn i gwain y ddynes, gan roi y rheolaeth i'r fenyw dros y weithred rywiol. Mae'r condom benyw hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer rhyw tinol.