Cored
rhwystr ar draws afon er mwyn rheoli ond nid ataf, llif y dwr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae cored yn rhan o strwythur hydrolig sy'n blocio nant neu afon lle mae hylif yn gorlifo o un lefel i'r llall. Defnyddir gorlifau yn helaeth mewn peirianneg hydrolig, yn ogystal ag mewn hydrometreg, lle cânt eu defnyddio i fesur y defnydd o ddŵr. Mae theori gorlifan yn sail i gyfrifiad hydrolig argaeau a sawl math o gwteri. Disgrifir yng Ngheiriadur Prifysgol Cymru fel "... argae i gronni dŵr..."[1] Yn wahanol i gronfa ddŵr dydy'r cored ddim am stopio'r dŵr yn gyfangwbl i greu llyn artiffial, ond yn hytrach eu arafu.