De Schleswig
Rhan ddeuheuol cyn Ddugaeth Daneg, Sønderjylland ym mhenrhyn Jylland. Nawr yn rhan o dalaith Almaenig Schleswig Holstein / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae De Schleswig (Daneg:Sydslesvig; Almaeneg: Landesteil Schleswig, Südschleswig, mewn lleferydd llafar yn aml dim ond Schleswig) yn diriogaeth ar benrhyn Jylland sydd bellach yn rhan o'r Almaen ac yn gorwedd rhwng yr Eider yn y de a Fjord Flensburg yn y gogledd.[1] a'r ffin Daneg-Almaeneg. Roedd yn hanesyddol yn rhan o Dugaeth Schleswig. Mae'n rhan o dalaith (Land) Almaenig Schleswig-Holstein. Dyma, yn hanesyddol, oedd rhan ddeuheuol Dugaeth Schleswig.[2] Dinas fwyaf y rhanbarth yw Flensburg ("Flensborg" yn Daneg). Ar yr arfordir gorllewinol mae Nordfriesland, ar yr arfordir dwyreiniol Angeln (Angel) a Schwansen (Svans).