Dora Marsden
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Dora Marsden (5 Mawrth 1882 - 13 Rhagfyr 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, awdur ac yn benaf am ymgyrchu dros hawliau menywod.
Dora Marsden | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mawrth 1882 Marsden |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1960 Dumfries |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr, swffragét, golygydd, athronydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, ffeminist |
Fe'i ganed (fel yr awgryma'i henw) ym mhentref diwydiannol Marsden, Swydd Efrog ar 5 Mawrth 1882; bu farw yn Dumfries.[1][2][3][4]
Torrodd Marsden oddi wrth y sefydliad swffragetaidd (yn enwedig Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, neu'r Women's Social and Political Union), er mwyn sefydlu cyfnodolyn a fyddai'n rhoi lle i leisiau mwy radical. Mae ei chyfraniad i fudiad y swffraget yn fawr; beirniadodd y WSPU a'r Pankhursts, yn bennaf drwy ei chylchgrawn The Freewoman.
Honna rhai beirniaid llenyddol iddi fod yn rhan o ddeor syniadaeth moderniaeth lenyddol tra bod eraill yn gwerthfawrogi ei chyfraniad at ddealltwriaeth o Egoism.