Esbat
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae esbat yn gyfarfod cwfen sydd ddim yn perthyn i wyliau Wica[1]. Disgrifiai Janet a Stewart Farrar yr esbat fel cyfle ar gyfer "gŵyl gariadus, gwaith iacháu, hyfforddiant seicig a hwn a'r llall."[2]
Mabwysiadodd Wica'r term am ei gysylltiadau â gwrachod y gorffennol.[3] Defnyddiodd Murray ffynonellau Ffrengig o'r 16eg a 17eg canrifoedd am sabathau gwrachod. Daeth y term o'r Hen Ffrangeg esbat (Ffrangeg Cyfoes ébat) "difyrrwch" neu "adloniant".[4].