FC Vaduz
clwb Pêd-droed Vaduz, Liechtenstein / From Wikipedia, the free encyclopedia
Fussball Club Vaduz (Cymraeg: Clwb Pêl-droed Vaduz) ym mhrifddinas Liechtenstein, Vaduz, sy'n chwarae yng Nghyngrair Bêl-droed Swistir. Mae'r clwb yn chwarae yn stadiwm genedlaethol y wlad, sef y Rheinpark Stadion, sydd â chapasiti o 5,873 seddi gyda llefydd sefyll ychwanegol ar ochr ogleddol a deheuol y maes gan roi cyfanswm o dorf posib o 7,838.[1] Mae'r clwb yn chwarae yn system gynghrair y Swistir. Mae sefyllfa Vaduz yn unigryw (er yn debyg i'r hen sefyllfa yng Nghymru parthed timau fel Caerdydd, Abertawe a Wrecsam) lle maent yn cynrychioli eu gwlad, Liechtenstein, yng Nghynghrair Europa UEFA os byddant yn ennill Cwpan Liechtenstein tra eu bod yn chwarae mewn cynghrair gwlad arall (Swistir). Mae'r sefyllfa yma'n bodoli oherwydd nad oes gan Liechtenstein gynghrair ei hun oherwydd diffyg arian a diddordeb domestig.
Enw llawn | Fussball Club Vaduz | |||
---|---|---|---|---|
Llysenwau | Residenzler (Preswylydd) Fürstenverein (clwb y tywysog) Stolz von Liechtenstein (Balchder Liechtenstein) | |||
Enw byr | FCV | |||
Sefydlwyd | 14 Chwefror 1932 | |||
Maes | Rheinpark Stadion Vaduz, Liechtenstein (sy'n dal: 7,584 (5,873 seated)) | |||
Perchennog | Teulu Brenhinol Leichtenstein | |||
Cadeirydd | Ruth Ospelt | |||
Rheolwr | Roland Vrabec | |||
Cynghrair | Cynghrair Sialens y Swistir Swiss Challenge League | |||
2022/23 | 8. | |||
Gwefan | Hafan y clwb | |||
| ||||
Yn hanesyddol mae nifer fawr o chwaraewyr Vaduz yn dod o'r wlad, a sawl un wedi cynrychioli Tîm Bêl-droed Genedlaethol Liechtenstein, ond mae nifer o'r chwaraewyr brodorol bellach yn chwarae y tu allan i'r Dysywogaeth a nifer o dramorwyr yn chware i Vaduz.