Ffacbys
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llysieuyn blodeuol (neu coden) yw ffacbys, sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Fabaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cicer arietinum.[1] Yr enw Saesneg yw 'chickpea', er bod peth dryswch wrth i eraill alw lentils yn ffacbys[2]
Ffeithiau sydyn Cicer arietinum, Dosbarthiad gwyddonol ...
Cicer arietinum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Fabales |
Teulu: | Fabaceae |
Genws: | Cicer |
Rhywogaeth: | C. arietinum |
Enw deuenwol | |
Cicer arietinum Carl Linnaeus | |
Cau
Mae codau eraill yn cynnwys: ffa soia (Glycine max), y ffa cyffredin (Phaseolus), pys cyffredin (Pisum sativum), cnau mwnci (Arachis hypogaea), pys per (Lathyrus odoratus) a licrs (Glycyrrhiza glabra).