Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954 oedd y pumed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal ond y tro cyntaf i'r Gymanwlad cael ei grybwyll yn nheitl y Gemau. Daeth y penderfyniad i newid yr enw mewn cyfarfod yn ystod Gemau Olympaidd 1952 yn Helsinki. Vancouver, Canada sef cartref y Gemau rhwng 30 Gorffennaf - 7 Awst.
Enghraifft o'r canlynol | Digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1954 |
Dechreuwyd | 30 Gorffennaf 1954 |
Daeth i ben | 7 Awst 1954 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Vancouver, Empire Stadium |
Yn cynnwys | rowing at the 1954 British Empire and Commonwealth Games |
Rhanbarth | Vancouver |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
5ed Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 91 | ||
Seremoni agoriadol | 30 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 7 Awst | ||
|
Cafwyd y Gemau mwyaf hyd yma yn Vancouver gyda saith o wledydd yn ymddangos am y tro cyntaf; Ghana, Bahamas, Barbados, Gogledd Rhodesia, Cenia, Pacistan ac Wganda.
Yn ystod Gemau 1954 cafwyd y defnydd o systemau electronig i amseru'r cystadleuwyr am y tro cyntaf erioed gyda system ffotograffiaeth yn cael ei ddefnyddio ar linell derfyn y rasys athletau.
Mae Gemau 1954 yn enwog am y 'Miracle Mile' lle roedd Roger Bannister o Loegr a John Landy o Awstralia - yr unig ddau ddyn yn y byd ar y pryd i fod wedi rhedeg milltir mewn llai na 4 munud - yn wynebu eu gilydd am y tro cyntaf. Landy oedd ar y blaen tan ytroad olaf pan garlamodd Bannister heibio i ennill mewn amser o 3'58.8" gyda Landy 0.8 eiliad ar ei ôl - y tro cyntaf erioed i ddau redwr i dorri 4 munud yr yr un ras.