Gŵyl Mabsant
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gŵyl Mabsant (neu Gwylmabsant, Gŵyl Fabsant[1]) yw'r ŵyl a gysylltid â sant eglwys blwyf yng Nghymru, yn arbennig yn y cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd er mai gŵyl baganaidd ydoedd yn wreiddiol yn ôl Hugh Evans awdur Cwm Eithin.
Roedd yr Ŵyl Mabsant yn un o achlysuron cymdeithasol pwysicaf y flwyddyn i'r plwyfolion. Roedd yn cael ei dathlu â chanu a dawnsio a dirywiai weithiau'n rhialtwch afreolus. Cynhelid ffeiriau mewn rhai plwyfi a byddai'r dathlu'n parhau am wythnos weithiau, er mai un diwrnod arbennig oedd yr ŵyl ei hun. Canolbwynt yr ŵyl oedd llan yr eglwys leol fel arfer.
Gyda threigliad amser collwyd ystyr crefyddol yr ŵyl ac fe aeth yn achlysur seciwlar yn bennaf gyda'r pwyslais ar wledda, yfed a gorchestion ymladd a mabolgampau o ganlyniad i hynny. Ar Ynys Môn, er enghraifft, byddai pobl yn trefnu rasys i ddynion a cheffylau gyda phobl yn betio ar y canlyniad. Arferid cystadlu ar y pedwar camp ar hugain hefyd.
Roedd yr Ymneilltuwyr - yn arbennig y Methodistiaid - yn feirniadol iawn o'r gwyliau mabsant am eu bod yn cynrychioli "tywyllwch" yr oes Gatholig a theyrnasiad "ofergoelion Pabyddol".
Cysylltir yr Ŵyl Mabsant â'r baledi poblogaidd hefyd. Roedd yn amser da i Faledwyr Cymreig werthu eu cerddi. Mae nifer o gerddi rhydd y cyfnod o'r unfed ganrif ar bymtheg hyd ddiwedd y ddeunawfed yn gerddi i'w canu yn y gwyliau mabsant. Yn ôl William Morris chwaraewyd anterliwt yng Ngwylmabsant Tudno, plwyf Llanwoddan, 'a charreg fawr ysgwâr a thywarch rhyd-ddi ydoedd y stage...'. Mae digon o dystiolaeth ar gael fod chwarae anterliwt yn rhan o'r ŵyl mewn rhannau eraill o Gymru yn ogystal.