Gwyrdd y Burren
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyrdd y Burren (neu wyrdd y Boireann), sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyrddion y Burren; yr enw Saesneg yw Burren Green, a'r enw gwyddonol yw Calamia tridens.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop. Daw'r enw o ardal yng ngogledd-orllewin Swydd Clare, sef un o siroedd traddodiadol Iwerddon; ystyr yr enw yn y Gaeleg yw "y graig fawr". Dyma'r unig ran o ynysoedd Prydain lle gellir ei weld. Arferid defnyddio'r enw Claddagh amdano ar un adeg.
Calamia tridens | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Calamia |
Rhywogaeth: | C. tridens |
Enw deuenwol | |
Calamia tridens Hufnagel, 1766 | |
37–42 mm ydy lled ei adenydd ac mae hyd yr adain blaen yn 17–18 mm. Un genhedlaeth sydd ac mae'r oedolyn i'w weld yn hedfan rhwng Mehefin a Medi.
Cafodd ei ddarganfod gyntaf yn 1949 gan William Stuart Wright a ddanfonodd y gwyfyn i'r naturiaethwr Eric William Classey a ddosbarthodd ef a'i gofrestru.
Prif fwyd y siani flewog ydy gwair o deulu'r Molinia caerulea.