Harlech
tref a chymuned yng ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref hanesyddol a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Harlech. Mae'n enwog am ei chastell a gysylltir â chwedl Branwen ferch Llŷr ym Mhedair Cainc y Mabinogi. Saif ardal yn Ardudwy uwchben Morfa Harlech yn wynebu ar Fae Tremadog. Y tu cefn i'r dref cyfyd y bryniau i gopaon y Rhinogau. Yn y gorffennol bu'n ganolfan sirol Sir Feirionnydd. Rhed yr A496 trwy'r dref, sy'n gyrchfan poblogaidd gan ymwelwyr yn yr haf.
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Math | tref, cymuned |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8604°N 4.1055°W |
Cod SYG | W04000065 |
Cod OS | SH581312 |
Cod post | LL46 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]