Hentai
math o gomics neu animediiadau pornograffig sy'n dod o Japan fel arfer / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gair Japaneg ydy Hentai (変態 or へんたい) (clywed yr ynganiad (help·info)) sy'n disgrifio math o gomics neu animediiadau pornograffig (neu sy'n cynnwys lluniau o ryw eithafol) sy'n dod o Japan fel arfer. Gellwch ddweud fod anime, manga ac eroge yn fathau o hentai. Mae Bible Black yn esiampl o hentai.
Mae'r gair yn un cyfansawdd: mae 変 (hen; "newid", "od", neu "estron") yn cyfuno efo 態 (tai; "ymddygiad" neu "edrychiad"). Mae'n derm sydd wedi'i fyrhau o'r dywediad 変態性欲 (hentai seiyoku) sy'n golygu "sexual perversion".[1] Mewn slang Japanaeg, mae "hentai"'n cael ei ddefnyddio fel gair i ddilorni rhywun ac mae'n golygu yn y cyd-destun yma "dyn bydr" neu "weirdo".
Mae'r defnydd o'r gair yn y Saesneg ychydig yn wahanol, ac yn debycach i ddefnydd slang y Japani o'r gair エッチ (H neu ecchi), sy'n golygu unrhyw gynnwys sy'n ymwneud efo rhyw. Anaml iawn mae pobl o Japan yn defnyddio "hentai" i olygu pornograffi neu anime. Maen nhw'n defnyddio dau derm arall:
- 18禁 / 18-kin: sy'n golygu "wedi ei wahardd i bobl dan ddeunaw oed"
- 成人漫画 / seijin manga neu "gor-fanga".[1]
Yn answyddogol hefyd mae pobl Japan yn defnyddio termau fel anime ero (エロアニメ), manga ero (エロ漫画), a'r acronym Seisnig AV (am "adult video" neu fideo i oedolion).