Ieithoedd y Deyrnas Unedig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Saesneg, a thafodieithoedd ohoni, yw'r iaith a siaredir gan y rhan helaeth o'r Deyrnas Unedig,[9] er hynny siaredir sawl iaith "ranbarthol" hefyd. Siaredir un iaith frodorol ar ddeng ar draws Ynysoedd Prydain: tair iaith Germanaidd, pum iaith Geltaidd a thair iaith Romáwns. Siaredir hefyd sawl iaith fewnfudo yn Ynysoedd Prydain, gan amlaf mewn ardaloedd dinasoedd; o Dde Asia a Gorllewin Ewrop y mae'r ieithoedd hyn yn bennaf.
Ieithoedd y Deyrnas Unedig | |
---|---|
Saesneg Sgoteg Cymraeg Gaeleg yr Alban | |
Prif iaith/ieithoedd | Saesneg (98%;[1] cenedlaethol ac yn de facto swyddogol)[a][2][3][4] |
Iaith/Ieithoedd lleiafrifol | Sgoteg (2.5%),[5] Cymraeg (1%),[6] Sgoteg Wlster (0.05%),[7] Cernyweg (<0.01%), Gaeleg yr Alban (0.1%), Gwyddeleg (0.1%)[a] |
Prif iaith/ieithoedd mewnfudo | Pwyleg (1%), Punjabi (0.5%), Wrdw (0.5%), Bengaleg (0.4%), Gwjarati (0.4%), Arabeg (0.3%), Ffrangeg (0.3%), Portiwgaleg (0.2%), Sbaeneg (0.2%), Tamileg (0.2%) |
Prif iaith/ieithoedd tramor | Ffrangeg (23%), Almaeneg (9%), Sbaeneg (8%)[b][8] |
Arwyddiaith/Arwyddieithoedd | Iaith Arwyddo Brydeinig, Iaith Arwyddo Gwyddelig, Iaith Arwyddo Gogledd Iwerddon |
Cynllun(iau) bysellfwrdd cyffredin | |
Y Saesneg yw'r iaith swyddogol de facto yn y Deyrnas Unedig,[3][4] a siaredir gan ryw 59.8 miliwn o breswylwyr, neu 98% y boblogaeth, sydd yn dair oed a throsodd.[1][2][10][11][12] Mae rhyw 700,000 o bobl yn medru siarad y Gymraeg yn y DU,[13] sydd yn iaith swyddogol yng Nghymru[14] a'r unig iaith swyddogol de jure mewn unrhyw ran o'r DU.[15] Gall rhyw 1.5 miliwn o bobl yn y DU siarad Sgoteg — er bod dadl parthed ai iaith ei hun ynteu amrywiaeth ar y Saesneg ydyw.[5][16]
Mae cryn drafod ar ieithoedd y tair tiriogaeth ddibynnol y Goron (Jersey, Ynys y Garn ac Ynys Manaw),[17] er nad ydynt yn rhan o'r Deyrnas Unedig.