Inez Milholland
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist Americanaidd oedd Inez Milholland (6 Awst 1886 - 25 Tachwedd 1916) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithegydd, cyfreithiwr, ymgyrchydd dros heddwch, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Inez Milholland | |
---|---|
Ganwyd | 6 Awst 1886 Brooklyn |
Bu farw | 25 Tachwedd 1916 Good Samaritan Hospital |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, cyfreithiwr, ymgyrchydd heddwch, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Tad | John Elmer Milholland |
Priod | Eugen Boissevain |
Ganwyd Inez Milholland Boissevain yn Brooklyn, Efrog Newydd ar 6 Awst 1886; bu farw yn Good Samaritan Hospital, Los Angeles, California o anemia dinistriol. [1][2]
Magwyd Inez Milholland mewn teulu cyfoethog. "Nan" oedd enw'r teulu arni a hi oedd merch hynaf John Elmer a Jean (Torrey) Milholland; roedd ganddi un chwaer, Vida, ac un brawd, John (Jack). Roedd ei thad yn ohebydd ac yn awdur-olygydd y New York Tribune yn gyntaf cyn iddo ddod yn bennaeth camni teiars gwynt i geir a beics. Daeth yn gyfoethog ac roedd gan y teulu dai yn Efrog Newydd a Llundain. Yn Llundain, cyfarfu Milholland â swffragét o Loegr, Emmeline Pankhurst. Cefnogodd ei thad a'i mam lawer o ddiwygiadau arloesol, yn eu plith heddwch y byd, hawliau sifil, a phleidlais i fenywod.