Jenna Bush Hager
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures a chyflwynydd rhaglenni teledu Americanaidd yw Jenna Bush Hager (ganwyd 25 Tachwedd 1981[1]) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, awdur plant a gwleidydd. Mae Hager a'i gefaill, Barbara, yn ferched i'r 43ain Arlywydd yr Unol Daleithiau George W. Bush a chyn-Arglwyddes Gyntaf Laura Bush. Yn 2019 roedd yn cyflwyno Today with Hoda & Jenna, un o raglenni'r NBC yn yr Unol Daleithiau.
Jenna Bush Hager | |
---|---|
Ganwyd | Jenna Welch Bush 25 Tachwedd 1981 Dallas |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athro, gohebydd, ysgrifennwr, awdur plant, gwleidydd |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Tad | George W. Bush |
Mam | Laura Bush |
Priod | Henry Hager |
Plant | Margaret Hager, Poppy Hager, Hal Hager |
Gwefan | http://www.today.com/id/38937373/ns/today/t/jenna-bush-hager/ |
Fe'i ganed yn Dallas a mynychodd Brifysgol Texas, Austin a Phrifysgol Efrog Newydd. Priododd Henry Hager ac mae Margaret Hager yn blentyn iddi. Mae'n aelod o'r Blaid Weriniaethol.[2][3]
Ar ôl arlywyddiaeth ei thad, daeth Hager yn awdur, yn olygydd ar y cylchgrawn Southern Living, ac yn bersonoliaeth teledu ar NBC, fel aelod o The Today Show fel gohebydd, cyfrannwr a chyd-westeiwr.[4]