Jessica Hynes
cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr ffilm ac actores a aned yn Lewisham yn 1972 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tallulah Jessica Elina Hynes (yn gynt Stevenson; ganed 30 Hydref 1972) yn actores ac ysgrifenwraig Seisnig. Fe'i hadnabyddwyd yn broffesiynol fel Jessica Stevenson tan 2007.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Man preswyl ...
Jessica Hynes | |
---|---|
Ganwyd | Tallulah Jessica Elina Stevenson 30 Hydref 1972 Lewisham |
Man preswyl | Brighton, Llundain, Folkestone |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, sgriptiwr, ysgrifennwr, actor llwyfan, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm |
Gwobr/au | British Comedy Awards 1999, British Comedy Awards 2001, Gwobr Arbennig 'Theatre World', Royal Television Society Programme Awards, British Academy Television Award for Best Female Comedy Performance, British Academy Television Award for Best Female Comedy Performance |
Cau
Fe'i ganwyd yn Lewisham, de Llundain, ac fe'i magwyd yn Brighton, lle mynychodd ysgolion Babanod a Cynradd St Luke's yna Ysgol Uwchradd Dorothy Stringer.[2] Wedi i'w rhieni wahanu fe'i magwyd gan ei mam. Symudodd Jessica yn ôl i Lundain fel oedolyn ifanc.[3]
Mae teulu ei mam Jane yn hannu o ogledd Cymru ac mae ei mam yn byw ar ffarm yn Llanelian-yn-Rhos ac wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn.[4] Mae Jessica ei hun eisiau dysgu Cymraeg ac ymddangosodd ar pedwerydd cyfres S4C Iaith ar Daith yn Mai 2023.[5]