John Dyer
bardd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd yn yr iaith Saesneg a pheintiwr oedd John Dyer (1699 – Rhagfyr 1757), a aned yn Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin ac a ymfalchiai yn ei linach Gymreig. Fe'i gwnaed yn offeiriad yn Eglwys Lloegr yn 1741.[1] Cyfeirir ato mewn soned gan y bardd Wordsworth, To The Poet, John Dyer[2]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bedyddiwyd ...
John Dyer | |
---|---|
Ganwyd | 1699 Llanfynydd |
Bedyddiwyd | 13 Awst 1699 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Bu farw | Rhagfyr 1757 Coningsby |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, arlunydd |
Adnabyddus am | Grongar Hill, The Ruins of Rome |
Cau
Mae John Dyer yn adnabyddus yn bennaf am ei gerdd "Grongar Hill" a hefyd The Ruins of Rome, The Fleece a Written at Ocriculum. Ymhlith ei luniau sydd wedi goroesi mae llun dyfrlliw o gastell Caerffili (1733).
Byr iawn oedd ei boblogrwydd wedi cyhoeddi ei gerdd fwyaf, Grongar Hill, er i'r bardd John Gray frolio'i ddychymyg a'i arddull, “more of poetry in his imagination than almost any of our number, but rough and injudicious.”[1]