Laura Anne Jones
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o Gymraes ac aelod o'r blaid Geidwadol yw Laura Anne Jones (ganwyd 21 Chwefror 1979). Mae hi'n Aelod o'r Senedd dros ranbarth dwyrain De Cymru. Mae hi'n byw ym Mrynbuga.
Ffeithiau sydyn Laura Anne Jones AS, Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru ...
Laura Anne Jones AS | |
---|---|
Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Gorffennaf 2020 | |
Rhagflaenwyd gan | Mohammad Asghar |
Mewn swydd 3 Mai 2003 ā 1 Mai 2007 | |
Rhagflaenwyd gan | Phil Williams |
Dilynwyd gan | Mohammad Asghar |
Manylion personol | |
Ganwyd | (1979-02-02) 2 Chwefror 1979 (43 oed) Casnewydd |
Plaid wleidyddol | Ceidwadwyr |
Alma mater | Prifysgol Plymouth |
Cau
Fe'i etholwyd fel Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru am y tro cyntaf yn 2003 a hi oedd yr AC ieuengaf ar y pryd. Roedd yn llefarydd chwaraeon i'r Ceidwadwyr. Collodd ei sedd yn etholiad 2007 pan enillodd Plaid Cymru sedd ychwanegol ar restr rhanbarthol Dwyrain De Cymru.
Dychwelodd i'r Senedd yn dilyn marwolaeth Mohammad Asghar yn 2020. Hi oedd yr ail ar y rhestr rhanbarthol i'r Ceidwadwyr.[1]