Llam llyffant (tacteg)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tacteg gan droedfilwyr yw llam llyffant er mwyn symud lluoedd tuag at gyrchfan a amddiffynnir gan y gelyn. Bydd un milwr, cerbyd, neu is-uned yn aros yn y fan er mwyn darparu tanio amddiffynnol, tra bydd y milwr, cerbyd, neu is-uned arall yn symud ymlaen i gymryd lleoliad tanio o'u blaen, ac yn ailadrodd y dacteg hon bob yn ail nes bydd y lluoedd yn cyrraedd eu nod.[1]
- Tîm A (coch) yn amddiffyn wrth i Dîm B (glas) gymryd y llam cyntaf ymlaen.
- Tîm A yn symud ymlaen i'r un lleoliad â Thîm B.
- Tîm A yn amddiffyn unwaith eto wrth i Dîm B symud ymlaen.
- Tîm B yn amddiffyn wrth i Dîm A symud i leoliad ymhellach.
- Tîm A yn amddiffyn wrth i Dîm B gyrraedd y nod.