Llywodraethiaeth Qalqilya
Llywodraethiaeth yn Awdurdod Palesteina / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Llywodraethiaeth Qalqilya neu Lywodraethiaeth Calcilia (Arabeg: محافظة قلقيلية Muḥāfaẓat Qalqīlya; Hebraeg: נפת קלקיליה Nafat Qalqilya) yn un o 16 Llywodraethiaethau Palesteina. Lleolir y Llywodraethiaeth ar ochr ogledd-orllewinnol y Lan Orllewinol yn Awdurdod Palesteina. Ei phrifddinas neu muhfaza (sedd) yw dinas Qalqilya sy'n ffinio â'r Llinell Werdd (ffin 1967 gydag Israel wedi'r Rhyfel Chwe Diwrnod. Mae Mur Israelaidd y Lan Orllewinol yn torri ar draws rhan helaeth o'r Llywodraethiaeth.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Label brodorol ...
Enghraifft o'r canlynol | llywodraethiaethau Palesteina |
---|---|
Label brodorol | محافظة قلقيلية |
Poblogaeth | 121,671 |
Gwlad | Palesteina |
Enw brodorol | محافظة قلقيلية |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | y Lan Orllewinol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Yn ôl Swyddfa Ystadegau Ganolog Palestina, roedd gan y llywodraethiaeth 112,400 o drigolion ganol 2017. Erbyn 2020 cododd y nifer hon i 119,042 o drigolion.[1]