Mala vita
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Mala vita (Bywyd truenus) yn opera mewn tair act a gyfansoddwyd gan Umberto Giordano [1] i libreto gan Nicola Daspuro wedi'i addasu o ddrama verismo Salvatore Di Giacomo a Goffredo Cognetti o'r un enw. Perfformiwyd yr opera gyntaf ar 21 Chwefror 1892 yn y Teatro Argentina, Rhufain. Fe’i perfformiwyd wedi hynny yn Napoli, Fienna, Berlin a Milan, a dinasoedd eraill yr Eidal dros y ddwy flynedd nesaf. Ym 1897 dangoswyd fersiwn wedi'i hail-weithio a'i diwygio'n sylweddol o dan y teitl Il voto (Yr addewid) am y tro cyntaf ym Milan. Ymhen ychydig flynyddoedd roedd y ddau fersiwn wedi diflannu o'r repertoire. Ymhlith ei adfywiadau modern prin roedd perfformiad yn 2002 yn y Teatro Umberto Giordano yn Foggia (a recordiwyd yn fyw a'i ryddhau ar label Bongiovanni) ac ymddangosiad fel un o operâu Gwyl Loch Garman yn 2018.[2]
Golygfa lwyfan o Act 1 o berfformiad Ebrill 1892 yn Teatro San Carlo | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Iaith | Eidaleg |
Cymeriadau | Marco, Annetiello, Vito, Nunzia, Cristina, Amalia |
Libretydd | Nicola Daspuro |
Dyddiad y perff. 1af | 21 Chwefror 1892 |
Cyfansoddwr | Umberto Giordano |
Wedi'i gosod mewn cymdogaeth slym yn Napoli yn gynnar yn y 19eg ganrif, mae stori'r opera (a'r ddrama y mae'n seiliedig arni) yn troi o amgylch triongl cariad rhwng Vito, llifiwr dillad sy'n dioddef â'r diciâu; Cristina, putain y mae Vito wedi addo priodi yn gyfnewid am i Dduw ei wella o'i afiechyd; ac Amalia, meistres Vito ond a briododd ag Annetiello, diotwr oedd yn fynychwr rheolaidd o'r puteindy lle'r oedd Cristina yn gweithio. Mae'r hanes yn datblygu yng nghanol paratoadau'r gymdogaeth ar gyfer gŵyl Pedigrotta.[3]