Microceffali
afiechyd bodau dynol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Arwydd neu rybudd pendant o afiechyd niwrolegol yw microceffaliy, ond oherwydd nad yw gwyddoniaeth hyd yma'n ei ddeall yn iawn, nid oes un diffiniad absoliwt o'r afiechyd, hyd yma (2016). Mae microceffali fel arfer yn cyfeirio at benglog llai na'r cyffredin.[1][2]
Microceffali | |
---|---|
Penglog normal (chwith) ac achos o microceffali (dde) | |
Dosbarthu a chyfeiriadaeth allanol | |
Arbenigedd | Geneteg meddygol Meddygaeth genynnol |
ICD-ICD-10 | Q02. |
ICD- 9 | 742.1 |
OMIM | 251200 |
Afiechydon | 22629 |
MedlinePlus | 003272 |
MeSH | D008831 |
Gall fod yn gynhwynol (h.y wedi ei amlygu cyn yr enedigaeth) neu fe all ddatblygu wedi'r enedigaeth. Mae'n bosibl fod penglog llai na'r cyffredin yn digwydd gan nad yw'r ymennydd wedi datblygu i'w lawn dwf, neu o syndrom a gysylltir gyda chromosomau abnormal. Mae bosibl mai mwtad homozygous o fewn un o'r genynnau microceffalin sy'n achosi microceffali.
Wedi i'r Unol Daleithiau America ffrwydro bomiau atomig "Little Boy" ar Hiroshima a "Fat Man" ar Nagasaki, esgorodd nifer o ferched ar blant a oedd yn dioddef o microceffali.[3] Microceffali yw'r unig 'afiechyd' genynnol a ganfyddwyd ym mhlant Hiroshima a Nagasaki.[4][4] Yn Ionawr 2016 credid bod cysylltiad rhwng y firws Zika (a achosodd Epidemig 2015-2016 a phlant a anwyd gyda microceffali. Cludir y firws i ferched beichiog gan y mosgito Aedes aegypti ac eraill a thrwy ryw.[5][6][7]