Moel Arthur
un o fryngaerau Bryniau Clwyd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Bryn a bryngaer ym Mryniau Clwyd, Sir Ddinbych, yw Moel Arthur (cyfeirnod OS: 145 660). Fe'i lleolir rhwng Llandyrnog (ger Dinbych) i'r gorllewin a Nannerch i'r dwyrain; cyfeiriad grid SJ145660. I'r dwyrain, fel pe'n ei wylio islaw saif yr uchaf o gopaon Bryniau Clwyd: Moel Famau. Yn wahanol i'r 5 bryngaer arall nid yw'n gwarchod bwlch, ac nid yw mewn lleoliad strategol filwrol o bwys; mae hyn (a darganfyddiadau diweddar) yn arwain yr archaeolegydd i gredu fod arwyddocâd defodol i'r gaer.[1]
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1845°N 3.2806°W |
Cod OS | SJ145660, SJ1453266040 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL010 |
Cau