Màiri Mhòr nan Òran
Bardd a chantores iaith Gaeleg o'r Alban / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ganed Máiri Mòr nan Òran (1821–1898), neu Máiri McPherson, neu Máiri Nighean Iain Bháin, yn Sgeabost ar yr An t-Eilean Sgitheanach (Ynys Skye), yn yr Alban. Treuliodd ei phlentyndod yn yr An t-Eilean Sgitheanach ac yn 1848 priododd ag Isaac McPherson, crydd o Inverness, ac aeth i fyw gydag ef i'r dref honno. Bu iddynt chwech o blant. Yn 1871 bu farw Isaac ac aeth Mary i weithio fel nyrs.
Mary MacPherson | |
---|---|
Enw | Màiri Mhòr nan Òran |
Ganwyd | Mary MacDonald (1821-03-10)10 Mawrth 1821 Sgeitheabost, An t-Eilean Sgitheanach, Yr Alban |
Bu farw | 8 Tachwedd 1898(1898-11-08) (77 oed) Portree, An t-Eilean Sgitheanach, Yr Alban |
Addysg | Glasgow Royal Infirmary |
Mudiad | Highland Land League |
Priod | Isaac MacPherson |
Yn ystod y gwaith hwn, yn ôl ei barddoniaeth, y cyhuddwyd Mary o ddwyn dillad gwraig oedd newydd farw ac fe'i hanfonwyd i garchar am fwy na mis. Cadarnhawyd yn ddiweddarach bod Mary yn ddieuog ond ni wellodd o'r cywilydd am amser hir a chafodd ei symud i farddoni am y drosedd a gyflawnwyd yn ei herbyn a llawer o bynciau eraill. Ar adeg ei phrawf fe'i cefnogwyd gan John Murdoch, newyddiadurwr ymgyrchu a sylfaenydd papur The Highlander. Dywedir hefyd i Charles Fraser-Mackintosh, cyfreithiwr a gwleidydd o Inverness, weithredu ar ei rhan, ond nid yw'n glir ym mha rinwedd. Dyma gychwyn cyfeillgarwch rhwng y bardd a’r gwleidydd a barhaodd am weddill ei hoes. Mae ei phrofiad gyda'r gyfraith a'r teimlad roedd yn ei gyffroi wedi'i gofnodi yn Tha mi sgìth de luchd na Beurla ("rwy wedi blino ar y siaradwyr Saesneg"). Dywedodd fod y darostyngiad ("tàmailt") a ddioddefodd wedi dod â'i hawen yn fyw.[1][2]