Narcissus (mytholeg)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn chwedloniaeth Groegaidd, heliwr o Thespiae yn Boeotia a oedd yn enwog am ei brydferthwch oedd Narcissus neu Narkissos (Groeg (iaith): Νάρκισσος). Credir y gallai ei enw darddu o'r gair ναρκη (narke) yn meddwl "cwsg, diffyg teimlad." Roedd yn ŵr hynod o falch a dirmygai'r bobl a oedd yn ei garu. Sylwodd Nemesis ar hyn a denodd Narcissus at bwll dŵr lle gwelodd ei adlewyrchiad ei hun ynddo a chwympodd mewn cariad gydag ef. Ni sylweddolodd mai rhith yn unig ydoedd. Am nad oedd ef yn medru gadael prydferthwch ei adlewrchiad, bu farw Narcissus.[1]