Neifion (duw)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Duw dŵr croyw a'r môr ym mytholeg Rufeinig yw Neifion (Lladin: Neptunus). Mae'n cyfateb i'r duw Groegaidd Poseidon. Y dduwies Salacia yw ei wraig. Mae hithau'n cyfateb i'r dduwies Amphitrite.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Enw brodorol ...
Enghraifft o'r canlynol | duw dŵr, duwdod Rhufeinig |
---|---|
Enw brodorol | Neptunus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae'n debyg bod Neifion yn gysylltiedig â ffynhonnau dŵr croyw cyn y môr.[1] Addolwyd Neifion gan y Rhufeiniaid hefyd fel duw ceffylau, dan yr enw Neptunus Equester, noddwr rasio ceffylau.
Fe'i darlunnir yn aml mewn gweithiau celf o'r cyfnodau'r Henfyd, y Dadeni ac yn ddiweddarach, gyda thryfer a morfeirch.
- Mosäig Rhyfeinig hynafol o Diwnisia sy'n darlunio Neifion gyda'i dryfer mewn cerbyd wedi'i dynnu gan ddau forfarch
- Neifion gyda'i dridant a morfarch: cerflun gan Antoine Coysevox (1604–1720) yn y Louvre, Paris
- Neifion a'i wraig yn eu cerbyd: cerflun Alegori o Forwriaeth gan Albert Hodge (1875–1918) o flaen yr Adeilad Morgannwg ym Mharc Cathays, Caerdydd