Niobiwm
From Wikipedia, the free encyclopedia
Elfen gemegol yw niobiwm (gynt, columbiwm) gyda'r symbol Nb
a'r rhif atomig 41 yn y tabl cyfnodol. Daw'r gair "niobiwm" allan o fytholeg Roeg: merch Tantalws oedd Niobe. Bathwyd y gair "columbiwm", sef yr enw gwreiddiol ar yr elfen hon, gan ddarganfyddwr yr elfen, sef Charles Hatchett a hynny yn 1801.[1] Galwodd y mwyn yn columbite a'r elfen yn columbium ar ôl y gair barddonol am America: Columbia (o'r gair Columbus).[2]
Ffeithiau sydyn Symbol, Rhif ...
Cau
Mae'r elfen hon yn brin, llwyd, meddal ac yn un o'r metalau trosiannol. Fe'i ceir mewn 'pyrochlore' ac mewn 'columbite' ac fe'i cynhyrchir yn bennaf yn Brasil.