Palestine: Peace Not Apartheid
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyfr gan Jimmy Carter, 39fed Arlywydd yr Unol Daleithiau (1977–1981) ac enillydd Gwobr Heddwch Nobel ydy Palestine: Peace Not Apartheid.[1] Fe'i cyhoeddwyd gan Simon and Schuster yn Nhachwedd 2006.[2]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Awdur ...
Clawr y llyfr | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Jimmy Carter |
Cyhoeddwr | 2006 (Simon & Schuster) |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 2006 |
Pwnc | Gwyddoniaeth Gwleidyddiaeth |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 978-0-7432-8502-5 |
Genre | Nid ffuglen |
Olynwyd gan | We Can Have Peace in the Holy Land |
Prif bwnc | gwyddor gwleidyddiaeth |
Cau
Tra'n Arlywydd, cyhaliodd drafodaethau Camp David rhwng Menachem Begin o Israel ac Anwar Sadat o'r Aifft a arweiniodd at gytundeb heddwch Aifft-Israel. Barn Carter yn ei lyfr Palestine: Peace Not Apartheid yw mai gafael Israel ar diroedd y Palesteiniaid ydy asgwrn holl gynnen problemau'r Dwyrain Canol a'r hyn sy'n atal heddwch yno.[3] Beirniadwyd y llyfr yn bennaf gan Iddewon ac Israeliaid ond nododd Carter fod y feirniadaeth "in the real world… has been overwhelmingly positive." [4]