Pearl S. Buck
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures toreithiog o Unol Daleithiau America oedd Pearl S. Buck (26 Mehefin 1892 - 6 Mawrth 1973) a adnabyddir hefyd dan ei henw Tsieineaidd Sai Zhenzhu; Tsieineeg: 賽珍珠) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfieithydd, nofelydd, hunangofiannydd, gweithredydd dros hawliau dynol, sgriptiwr a newyddiadurwr.
Pearl S. Buck | |
---|---|
Ffugenw | John Sedges |
Ganwyd | Pearl Comfort Sydenstricker 26 Mehefin 1892 Hillsboro |
Bu farw | 6 Mawrth 1973, 1973 Danby, Vermont |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfieithydd, nofelydd, hunangofiannydd, amddiffynnwr hawliau dynol, sgriptiwr, newyddiadurwr, awdur plant, ysgrifennwr, cenhadwr, rhyddieithwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Exile, Fighting Angel, East Wind: West Wind, The Good Earth, Sons, A House Divided, China Sky, Dragon Seed, Peony, The Big Wave, Imperial Woman, Letter from Peking, The Living Reed |
Arddull | nofel, cofiant |
Tad | Absalom Sydenstricker |
Mam | Caroline Maude Stulting Sydenstricker |
Priod | John Lossing Buck, Richard J. Walsh |
Plant | Caroline Grace Buck, Janice Comfort Walsh |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr Horatio Alger, Medal William Dean Howells Academi Celfyddydau America, Gwobr Pulitzer i Nofelwyr |
llofnod | |
Cenhadon oedd ei rhieni, a threuliodd Buck y rhan fwyaf o'i bywyd cyn 1934 yn Zhenjiang, Tsieina. Ei nofel The Good Earth oedd y ffuglen a werthodd orau yn yr Unol Daleithiau yn 1931 a 1932 ac enillodd Wobr Pulitzer yn 1932. Yn 1938, enillodd Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth "am ei disgrifiadau cyfoethog a gwirioneddol epig o fywyd gwerinwyr yn Tsieina ac am ei champweithiau bywgraffyddol."[1]
Fe'i ganed yn Hillsboro ar 26 Mehefin 1892 a bu farw yn Danby o ganser yr ysgyfaint. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cornell a Choleg Randolph–Macon. Bu'n briod i John Lossing Buck.[2][3][4][5][6]
Ar ôl dychwelyd i'r Unol Daleithiau yn 1935, parhaodd i ysgrifennu llawer a daeth yn eiriolwr amlwg dros hawliau menywod a grwpiau lleiafrifol, ac ysgrifennodd yn eang ar ddiwylliannau Tsieineaidd ac Asiaidd, gan ddod yn adnabyddus iawn am ei hymdrechion i hyrwyddo mabwysiadu plant Asiaidd a chymysg.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Exile, Fighting Angel, East Wind: West Wind, The Good Earth, Sons, A House Divided, China Sky, Dragon Seed, Peony, The Big Wave, Imperial Woman, Letter from Peking a The Living Reed.