Pedro Madruga
From Wikipedia, the free encyclopedia
Marchog Galisiaidd poblogaidd oedd Pedro Álvarez de Soutomaior, Count of Caminha, a adnabyddir ar lafar fel Pedro Madruga (c. 1430 - 1486). Ei elyn pennaf oedd Alfonso II o Fonseca a'r gwrthryfelwyr Galisaidd, yr Irmandiña. Wedi cryn frwydro, daeth holl diroedd de Galisia o dan feddiant Pedro. Yn llythrennol, ystyr ei enw yw 'Pedro - y boregodwr'.
Pedro Madruga | |
---|---|
Ffugenw | Pedro Madruga |
Ganwyd | 1430 Pontevedra |
Bu farw | 16 Hydref 1486 Alba de Tormes |
Dinasyddiaeth | Galisia |
Tad | Fernán Yañez de Sotomayor, Señor de Sotomayor |
Mam | Constanza de Zúñiga |
Priod | Q125523402 |
Plant | Alvaro de Sotomayor, Conde de Caminha |
Derbyniodd addysg babyddol, Ladin gan fynachod Dominiciaid ger Tuy, un o faestrefi dwyreiniol Pontevedra.
Mynn un chwedl mai'r un person oedd Pedro a Christopher Columbus;[1] mae hefyd yn bosibl mai'r un person oedd mab y ddau. Dysgodd sut i fordwyo (neu fforio) llongau am 23 mlynedd - yr union gyfnod a nododd Columbus yn ei ddyddiaduron.
Cartref ei deulu oedd Castell Soutomaior, a leolwyd mewn safle allweddol yn nyffryn Afon Verdugo, ychydig gilometrau o ddinas Pontevedra ac sy'n dal i sefyll. Mae'r castell yn esiampl rhagorol o gaer amddiffynnol o'r Oesoedd Canol ac yn dyddio'n ôl i'r 12g, ond a ddatblygwyd ymhellach yn y 15g. Ceir waliau allanol o siap ofal, sy'n anghyffredin iawn, ac sy'n amddiffyn dau dŵr a gysylltir â phont, ffos a phont grog.[2]
Yn ôl Vasco da Ponte:
- "Roedd Pedro'n gyffrwys, yn ddeallus ac yn wybodus mewn rhyfel. Roedd yn ddidwyll, a pharchodd y rhai a oedd yn driw iddo, gan eu trin yn dda; ond roedd yn greulon tuag at ei elynion. Ni fedrodd glaw, eira, rhew na stormydd mo'i atal rhag gwneud ei waith, ac yn aml, byddai'n cysgu y tu allan i adeilad - neu ar fwrdd pren, caled, heb liain drosto."[3]
Ni cheir llawer o wybodaeth amdano ar ôl 1487. Credir iddo ffugio'i farwolaeth ei hun, fel rhan o gynllun rhyngddo a Brenhinoedd Pabyddol Galisia.