Pencampwriaeth UEFA Euro 2016
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pencampwriaeth Pêl-droed UEFA Euro 2016, a gyfeirir ato yn aml fel Euro 2016, oedd y 15fed Pencampwriaeth Ewrop ar gyfer timau pêl-droed cenedlaethol dynion a drefnwyd gan UEFA. Fe'i cynhaliwyd yn Ffrainc rhwng 10 Mehefin hyd 10 Gorffennaf 2016.[1][2]
Championnat d'Europe de football 2016 (Ffrangeg) | |
---|---|
Logo Swyddogol UEFA Ewro 2016 Le Rendez-Vous | |
Manylion | |
Cynhaliwyd | Ffrainc |
Dyddiadau | 10 Mehefin – 10 Gorffennaf 2016 |
Timau | 24 |
Lleoliad(au) | 10 (mewn 10 dinas) |
← 2012 2020 → |
Roedd 24 o dimau yn cystadlu ym Mhencampriaeth Ewrop am y tro cyntaf wedi i UEFA godi nifer y timau o 16 (oedd wedi cystadlu yn y rowndiau terfynol ers 1996) i 24.[3]. O dan y fformat newydd roedd 24 tîm yn cystadlu mewn chwe grŵp o bedwar gydag 16 o dimau yn camu ymlaen i'r rownd nesaf. Roedd Ffrainc yn y rowndiau terfynol fel y wlad oedd yn cynnal y gystadleuaeth. Cystadleuodd 53 o wledydd UEFA rhwng Medi 2014 a Tachwedd 2015 am y 23 o lefydd eraill oedd yn weddill. Yn eu mysg roedd y deiliaid, Sbaen, ac am y tro cyntaf ers ymuno ag UEFA, Gibraltar.