Rheilffordd Midland (Butterley)
Rheilffordd Gul yn Swydd Derby / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Rheilffordd Midland – Butterley yn rheilffordd dreftadaeth yn Swydd Derby. Mae'r lein yn 3.5 milltir o hyd ac o led safonol rhwng Butterley a Chyffordd Swanwick, lle maeAmgueddfa Matthew Kirtley.[1] Mae hefyd rheilffordd led 2 droedfedd ar yr un safle.[2]
Enghraifft o'r canlynol | rheilffordd dreftadaeth |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Swydd Derby |
Gwefan | https://www.midlandrailway-butterley.co.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Crëwyd y Rheilffordd Midland ym 1844 gan uno Rheilffordd Siroedd y Canolbarth, Rheilffordd Gogledd Midland a Rheilffordd Birmingham a Chyffordd Derby.
Dechreuwyd prosiect i ddathlu'r rheilffordd ym 1969, a dewiswyd lein rhwng Ambergate a Pye Bridge a chauwyd ar 23 Rhagfyr 1968. Roedd y cledrau i gyd wedi mynd. Symudwyd ac ailadeiladwyd adeilad o Whitwell a dechreuodd gwasaneth ar filltir o drac ar 22 Awst 1981. Estynnwyd y lein yn raddol i Ironville, Hammersmith a Riddings. Adeiladwyd gorsafoedd newydd yn Swanwick a Hammersmith.[3]