Sarah Gilbert
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Fonesig Sarah Catherine Gilbert DBE (ganwyd Ebrill 1962) yn frechlynolegydd Prydeinig. Mae hi'n Athro Saïd mewn Brecholeg ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn gyd-sylfaenydd y cwmni bio-technegol Vaccitech.[1] [2][3] [4] [5] Mae Gilbert yn arbenigo mewn datblygu brechlynnau yn erbyn ffliw a phathogenau firaol sy'n dod i'r amlwg. [6] Hi a arweiniodd y gwaith o ddatblygu a phrofi'r brechlyn ffliw cyffredinol, a gafodd dreialon clinigol yn 2011. Ar 1 Ionawr Darllenodd Gilbert ar bost ProMED am bedwar o bobl yn Tsieina sy'n dioddef o niwmonia rhyfedd o achos anhysbys, yn Wuhan, Tsieina. [7] Ar 30 Rhagfyr 2020, cymeradwywyd y brechlyn Rhydychen-AstraZeneca COVID-19 a gyd-ddatblygodd gyda Grŵp Brechlyn Rhydychen i'w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig.[8]
Sarah Gilbert | |
---|---|
Ganwyd | Ebrill 1962 Kettering |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymchwilydd, athro cadeiriol, imiwnolegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr 100 Merch y BBC, Medal Albert, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr Tywysoges Asturias am Umchwyl Technegol a Gwyddonol, Erna Hamburger Prize |
Gwefan | https://www.jenner.ac.uk/team/sarah-gilbert |
Cafodd Gilbert ei geni yn Kettering, Lloegr, yn ferch i athrawes a rheolwr swyddfa. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia ac ym Mhrifysgol Hull.