Sinsir
ffrwyth / From Wikipedia, the free encyclopedia
Blodyn parhaol yw sinsir neu sunsur (Lladin: Zingiber officinale); defnyddir ei wreiddiau (neu ei 'risomau') sych i roi blas ar fwyd neu mewn meddygaeth.
Ffeithiau sydyn Sinsir Sunsur, Dosbarthiad gwyddonol ...
Sinsir Sunsur | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Ddim wedi'i restru: | Comelinidau |
Urdd: | Zingiberales |
Teulu: | Zingiberaceae |
Genws: | Zingiber |
Rhywogaeth: | Z. officinale |
Enw deuenwol | |
Zingiber officinale L. | |
Cau
Mae ei fonyn yn tyfu tua metr o daldra'n flynyddol ac mae ganddo ddail gwyrdd a blodau melyn. Mae'n frodorol o dde Tsieina ond lledaenodd i Asia ac yna i Orllewin Affrica a'r Caribi.[1] Cychwynnwyd allforio sinsir i Ewrop o India yn ystod y ganrif gyntaf O.C.[1][2] Bellach, India yw prif gynhyrchydd sinsir.[1]