Stadiwm Cwmbrân
maes athledau a pêl-droed / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Cwmbran Stadium yn stadiw aml-bwrpas a chanolfan chwaraeon yn nhrefg Cwmbrân, Torfaen, Gwent. Mae'n dal 10,500 person.
Math | stadiwm pêl-droed |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cwmbrân |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6428°N 3.02°W |
Mae'r prif arena awyr awgored yn cynnwys trac athletau a campau'r maes gan gynnwys maes chwarae pêl-droed. Yn ogystal â bod yn faes athletau dyma gartref tîm pêl-droed C.P.D. Tref Cwmbrân.[1]
Condemiwyd y Brif Eisteddfa yn 2012. A condemiwyd y trac ar gyfer cystadlu yn 2013 ond mae dal i gadw ei thystysgrif ar gyfer ymarfer. Yn 2015 cyhoeddodd Cyngo Bwrdeitref Torfaen gynlluniau i ail-wampio'r stadiwm.[2][3]
Mae gan y ganolfan llain chwarae awyr agored a llif-oleuadau ar gyfer pêl-droed ac hoci.
Mae'r adnoddau dan do yn cynnwys pwll nofio 25 metr ac adnoddau chwarea bowls rhagorol gyda 6 llain.
Cafwyd buddsoddiad diweddar yn y ganolfan i greu Ystafell Ffitrwydd sy'n cynnwys:
- Campfa 45 maint ffitrwydd a chodi pwysau
- Cyfleusterau iechyd cyfoes sy'n cynnwys gweliau haul, sauna, jacuzzi ac stafell stêm
- Stiwdio ddawns ac ymarfer corff torfol
- Neuaddau chwaraeon 8 a 4 cwrt
- 1 cwrt sboncen
- Ystafelloedd therapi harddwch a ffisiotherapi
- 3 ystafell gymunedol a chyfarfodydd
- Adnoddau ar gyfer partïon a meithrinfeydd plant
- Caffe a Bar