Taras Shevchenko
bardd ac arlunydd o Wcráin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llenor ac arlunydd Wcreinaidd oedd Taras Hrygorovych Shevchenko (Wcreineg: Тарас Григорович Шевченко tr. Taras Hrygorovych Shevchenko; 9 Mawrth [25 Chwefror yn yr Hen Ddull] 1814 – 10 Mawrth [26 Chwefror] 1861) a ystyrir yn fardd cenedlaethol Wcráin. Cymeriad amlochrog a thalentog ydoedd: yn ogystal â bod yn fardd, nofelydd a dramodydd, paentiwr a darlunydd, roedd yn gasglwr arferion gwerin ac yn ethnograffwr.[1][2] Oherwydd ei waddol etifeddol fe'i ystyrir ef yn sylfaenydd llenyddiaeth Wcreineg fodern, ac, i raddau, yr iaith Wcreineg gyfoes, er bod iaith ei farddoniaeth yn wahanol i iaith Wcreineg fodern.[2]
Taras Shevchenko | |
---|---|
Ffugenw | Т. Ш., К. Дармограй, Кобзарь Дармограй |
Ganwyd | Тарас Григорьев сын Шевченко 9 Mawrth 1814 Moryntsi |
Bedyddiwyd | 28 Chwefror 1814 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Bu farw | 10 Mawrth 1861 o asgites St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Wcráin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, bardd, anthropolegydd, arlunydd, ysgrifennwr, dramodydd, ethnograffydd, rhyddieithwr, athronydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Kobzar |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Tad | Hryhoriy Ivanovych Shevchenko |
Mam | Kateryna Y. Boiko |
llofnod | |
Hanai o gefn gwlad Llywodraethiaeth Kyiv yn Ymerodraeth Rwsia, rhanbarth a leolir heddiw yng nghanolbarth Wcráin. Ffermwr taeog oedd ei dad, a magwyd Taras mewn angen. Oherwydd ei ddawn artistig gwnaeth y tirfeddiannwr Engelhart sylwi arno a mynd ag ef ar ei deithiau. Yn St Petersburg, trwy ymyrraeth y bardd Rwsiaidd, Vasily Zhukovsky, cafodd ei ryddhau o'i daeogaeth. Astudiodd yn Academi'r Celfyddydau Cain o dan Karl Bryulov, a fe'i derbyniwyd yn gymrawd gan Academi Gelf Ymerodraeth Rwsia.
Er na bu erioed yn aelod o Frawdoliaeth Seintiau Cyril a Methodius – cudd-gymdeithas Ban-Slafaidd ryddfrydol yn Kyiv – arestiwyd Shevchenko ym 1847 am gefnogi'r mudiad dros genedlaetholdeb Wcreinaidd a rhyddfrydoli'r ymerodraeth. Yn wahanol i aelodau y gymdeithas nad oedd yn deall bod eu gweithredoedd yn arwain at annibyniaeth Wcráin, yn ôl yr heddlu cudd, roedd Shevchenko yn bencampwr annibyniaeth ei wlad.[3][4] Fe'i cafwyd yn euog o hyrwyddo annibyniaeth Wcráin, ysgrifennu cerddi yn Wcreineg, a bychanu aelodau o deulu brenhinol Rwsia, a dedfrydwyd ef i wasanaeth milwrol yn Orenburg, ac yn ddiweddarach yng nghaer Novopetrovsk yr ochr arall i Fôr Caspia. Ni ryddhawyd ef o'r alltudiaeth greulon hyd 1857, ond yr oedd ei iechyd eisoes wedi ei ddifetha. Bu farw bedair blynedd yn ddiweddarach, a chladdwyd ef yn ninas Kaniv ar lan Afon Dnieper.