Theodor Svedberg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cemegydd ffisegol o Sweden oedd Theodor Svedberg (30 Awst 1884 - 25 Chwefror 1971). Enillodd Wobr Nobel mewn Cemeg[1] yn 1926 am ei waith ar goloidau (colloids).
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Theodor Svedberg | |
---|---|
Ganwyd | 30 Awst 1884 Valbo, Valbo church parish |
Bu farw | 25 Chwefror 1971 Örebro |
Man preswyl | Sweden |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | cemegydd, academydd, arlunydd |
Cyflogwr | |
Priod | Andrea Andreen |
Plant | Elias Svedberg, Hillevi Svedberg |
Gwobr/au | Gwobr Cemeg Nobel, Gwobr Björkén, Medal Franklin, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol |
Cau
Bu peth o'i waith cynnar yn gadarnhad o ddamcaniaeth Albert Eistein o symudedd Brown. Yn hwyrach yn ei yrfa datblygodd technegau allgyrchydd i ddadansoddi proteinau. Theodor (The) Svedberg sy'n gyfrifol am ddefnydd yr uned Svedberg (a enwyd ar ei ôl) i ddisgrifio'n fanwl ymddygiad gronynnau mewn allgyrchydd.