Therese o Saxe-Hildburghausen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Brenhines Bafaria oedd Therese o Saxe-Hildburghausen' (Therese Charlotte Luise) (8 Gorffennaf 1792 - 26 Hydref 1854). Cynorthwyai Therese yn aml gyda gweinyddiad teyrnas Bafaria, yn enwedig pan oedd Ludwig, ei gŵr, yn absennol o München yn ystod ei deithiau niferus; cafodd hi beth dylanwad gwleidyddol. Roedd hi'n boblogaidd iawn ac yn cael ei hystyried fel mpdel o frenhines ddelfrydol, gwraig a mam. Bu'n ymwneud â nifer fawr o fudiadau elusennol ar gyfer gweddwon, plant amddifad a'r tlawd. Bu'n destun cydymdeimlad mawr yn ystod anffyddlondeb ei gŵr â Lola Montez, a oedd yn un o nifer o ffactorau a gyfrannodd at ei amhoblogrwydd ei gŵr a'i ymddiswyddiad yn 1848. Roedd gan Therese naw o blant.
Therese o Saxe-Hildburghausen | |
---|---|
Ganwyd | Therese Charlotte Luise Friederike Amalie von Sachsen-Hildburghausen 8 Gorffennaf 1792 Seidingstadt |
Bu farw | 26 Hydref 1854 o colera München |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Bafaria |
Tad | Frederick, Dug Saxe-Hildburghausen |
Mam | Duges Charlotte Georgine o Mecklenburg-Strelitz |
Priod | Ludwig I o Fafaria |
Plant | Otto, brenin Groeg, Maximilian II o Bafaria, Princess Mathilde Caroline of Bavaria, Luitpold, Rhaglyw Dywysog Bafaria, Y Dywysoges Adelgunde o Bafaria, Archdduges Hildegard, Duges Teschen, y Dywysoges Alexandra o Fafaria, y Tywysog Adalbert o Fafaria, Theodolinde Princess of Bavaria |
Llinach | Ernestine line |
Gwobr/au | Urdd Theresa |
Ganwyd hi yn Seidingstadt yn 1792 a bu farw ym München yn 1854. Roedd hi'n blentyn i Frederick, Dug Saxe-Hildburghausen a Duges Charlotte Georgine o Mecklenburg-Strelitz. Priododd hi Ludwig I o Fafaria.[1][2][3]