Thomas Price (Prif Weinidog De Awstralia)
Prifweinidog De Awstralia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Thomas (Tom) Price (19 Ionawr, 1852 - 23 Ebrill, 1909), yn wleidydd Awstraliad a hanodd o Gymru a wasanaethodd fel Prif Weinidog De Awstralia rhwng 1905 a 1909[1][2]. Ef oedd y gwleidydd cyntaf yn y byd i arwain gweinyddiaeth llafur sefydlog[3].
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Thomas Price | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ionawr 1852 Brymbo |
Bu farw | 31 Mai 1909 Mount Lofty |
Dinasyddiaeth | Awstralia, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, saer maen |
Swydd | Prif Weinidog De Awstralia, Aelod o Gynulliad De Awstralia, Comisiynydd Gwaith Cyhoeddus, Gweinidog Addysg, Aelod o Gynulliad De Awstralia, Leader of the Australian Labor Party (SA Branch) |
Plaid Wleidyddol | Plaid Lafur Awstralia (Cangen Dde Awstralia) |
Plant | John Lloyd Price |
Cau
Roedd llwyddiannau'r llywodraeth yn cynnwys creu ysgolion uwchradd gwladol am ddim, ffurfio byrddau cyflogau ac isafswm cyflog, a sefydlu'r Ymddiriedolaethau Tramiau Bwrdeistrefol.