Uwch Gynghrair Gweriniaeth Iwerddon
prif adran pêl-droed Gweriniaeth Iwerddon / From Wikipedia, the free encyclopedia
Uwch Adran Cynghrair Iwerddon (Saesneg: League of Ireland Premier Division; Gwyddeleg: Cymroinn Sraith na hÉireann) yw rheng uchaf pêl-droed ar lefel clwb yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'n cynnwys deg clwb ac mae'r tymor yn dechrau ym mis Mawrth ac yn gorffen ym mis Hydref, gyda phob clwb yn chwarae 36 gêm (pedair gwaith yn erbyn phob tîm arall). Fe’i cynhelir yn ystod misoedd yr haf er mwyn peidio â chyd-daro ag Uwch Gynghrair Lloegr, cystadleuaeth sy’n denu sylw cefnogwyr yn Iwerddon. Mae enillwyr yr Uwch Adran yn chwarae yn rownd rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, tra bod y tîm ar waelod y adran yn disgyn i Adran Gyntaf Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon, sef yr ail reng. Ar hyn o bryd mae'r Uwch Adran yn cael ei noddi gan Airtricity, a dyna pam mae'r twrnamaint hefyd yn cael ei alw'n Airtricity Premier Division. Fe'i gelwid yn flaenorol yn Eircom Premier Division, rhwng 2000 a 2008.
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
---|---|
Clwb/clybiau eraill o | Gogledd Iwerddon |
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 1985 (yn ffurf bresennol) |
Nifer o dimau | 10 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | League of Ireland First Division |
Cwpanau | FAI Cup President's Cup |
Cwpanau cynghrair | Cwpan Cynghrair Iwerddon |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA Cynghrair Europa UEFA UEFA Europa Conference League |
Mwyaf o bencampwriaethau | Dundalk (8) |
Partner teledu | RTÉ2 (Gw. Iwerddon) Eir Sport (Gw. Iwerddon) Premier Sports (DU) FreeSports (DU)[1][2] |
Gwefan | SSEAirtricityLeague.ie |
2020 |
Er 1921, mae 19 clwb wedi cael eu coroni’n bencampwyr Cynghrair Pêl-droed Iwerddon. Clwb Pêl-droed Derry City yw'r unig glwb sydd wedi lleoli y tu allan i ffiniau Gweriniaeth Iwerddon.
Crëwyd y gystadleuaeth ym 1921 fel cynghrair o wyth tîm, ond dros amser mae wedi ehangu i bencampwriaeth o 20 clwb wedi'i rannu'n ddau gategori: 10 tîm yn yr Uwch Adran a 10 yn yr Adran Gyntaf.
Ers 2006 Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon sydd wedi bod yn gyfrifol am y sefydliad. Yn flaenorol y clybiau a gymerodd ran oedd â gofal am y gystadleuaeth, ond gorfododd problemau ariannol timau i'r Gymdeithas gymryd rheolaeth drosti. Ym mis Medi 2020, roedd yr Uwch Adran yn y 40fed safle ymhlith y 55 cynghrair genedlaethol sy'n rhan o UEFA.
Y tîm sydd wedi ennill gynghrair y nifer fwyaf o weithiau yw Shamrock Rovers F.C., gyda 17 tlws, a'r unig glwb sydd wedi cymryd rhan ym mhob tymor yw Bohemians FC. Yn ogystal â thimau o'r Weriniaeth mae'r twrnamaint yn cynnwys clwb o Ogledd Iwerddon, Derry City FC, a ddaeth i mewn i system y gynghrair ym 1985.