Wicipedia:Ar y dydd hwn/19 Ionawr
Wicipedia nodyn / From Wikipedia, the free encyclopedia
- 1810 (214 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd John Jones (Talhaiarn), yn Llanfair Talhaearn
- 1852 (172 blynedd yn ôl) – ganwyd Tom Price ym Mrymbo, Wrecsam a ddaeth yn Brif Weinidog De Awstralia
- 1881 (143 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd a'r beirniad llenyddol John Roose Elias
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – dedfrydwyd D. J. Williams, Lewis Valentine a Saunders Lewis i naw mis o garchar yn yr Old Bailey, Llundain
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – llosgodd y myfyriwr Tsiecaidd Jan Palach ei hun i farwolaeth ym Mhrag mewn protest yn erbyn goresgyniad Tsiecoslofacia gan luoedd Cytundeb Warsaw yn sgîl Gwanwyn Prag.