Wicipedia:Ar y dydd hwn/29 Ebrill
From Wikipedia, the free encyclopedia
29 Ebrill: Diwrnod Dawns Rhyngwladol; Gŵyl Mabsant Sannan
- 1429 (595 blynedd yn ôl) – daeth Jeanne d'Arc i Orléans er mwyn codi'r gwarchae ar y ddinas
- 1803 (221 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Thomas Jones
- 1865 (159 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd Thomas Evans (Telynog) yn 24 oed
- 1968 (56 blynedd yn ôl) – cyhoeddodd y Swyddfa Bost stamp â thestun Cymraeg arni am y tro cyntaf: stamp 'Pont y Borth'.
- 1980 (44 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfarwyddwr ffilmiau Alfred Hitchcock