Wicipedia:Ar y dydd hwn/Ionawr
From Wikipedia, the free encyclopedia
1 Ionawr: Dydd Calan; Gŵyliau'r seintiau: Gwynhoedl, Hywyn Machraith, Maelrys, Medwy a Thyfrydog.
- 765 (1259 blynedd yn ôl) – Ganwyd Ali al-Rida (Arabeg: علي بن موسى الرضا), seithfed disgynydd y Proffwyd Muhammad a'r wythfed Imam Shia.
- 1723 (301 blynedd yn ôl) – Ganwyd Goronwy Owen ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yng ngogledd-ddwyrain Môn, bardd (m. 1769)
- 1879 (145 blynedd yn ôl) – Ganwyd Ernest Jones, seiciatrydd, prif gofianydd Sigmund Freud (m/ 1958).
- 1914 (110 blynedd yn ôl) – lansiwyd Welsh Outlook gan Thomas Jones (1870-1955) gyda nawdd gan deulu David Davies (Llandinam)
- 2024 (0 blynedd yn ôl) – Daeargryn Gorynys Noto (2024)
- 1492 (532 blynedd yn ôl) – ildiodd Granada, y deyrnas Islamaidd olaf yn Sbaen, i'r Cristnogion, gan ddod â'r Reconquista i ben
- 1856 (168 blynedd yn ôl) – ganwyd John Viriamu Jones, Prifathro Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn Abertawe
- 1856 (168 blynedd yn ôl) – ganwyd Arthur Hughes, golygydd a llenor Cymreig (m. 1965)
- 1919 (105 blynedd yn ôl) – bu farw Arthur Gould, chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru
- 1941 (83 blynedd yn ôl) – difrodwyd cadeirlan Llandaf gan fomiau'r awyrlu Almaenig a lladdwyd 165 o bobl
- 1960 (64 blynedd yn ôl) – teithiodd y trên olaf o Flaenau Ffestiniog i'r Bala, o ganlyniad i foddi Cwm Celyn.
3 Ionawr: Gŵyl Mabsant y seintiau Cymreig Tewdrig a Trillo
- 1521 (503 blynedd yn ôl) – cafodd Martin Luther ei esgymuno gan y Pab Leo X
- 1892 (132 blynedd yn ôl) – ganwyd J. R. R. Tolkien, awdur († 1973)
- 1907 (117 blynedd yn ôl) – ganwyd yr actor Ray Milland yng Nghastell-nedd
- 1977 (47 blynedd yn ôl) – darllediad cyntaf BBC Radio Cymru
- 2016 (8 mlynedd yn ôl) – darllediad cyntaf y gyfres ddrama wleidyddol Byw Celwydd
4 Ionawr: Diwrnod annibyniaeth Myanmar (1948)
- 1875 (149 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd William Crwys Williams (Crwys), yng Nghraig Cefn Parc, ger Abertawe
- 1878 (146 blynedd yn ôl) – ganwyd yr arlunydd Augustus John yn Ninbych-y-Pysgod
- 1878 (146 blynedd yn ôl) – sylfaen Cymdeithas y Ffabiaid yn Llundain
- 1956 (68 blynedd yn ôl) – bu farw R. Williams Parry, "Bardd yr Haf"
- 1970 (54 blynedd yn ôl) – bu farw D. J. Williams, llenor a chenedlaetholwr Cymreig
- 2010 (14 blynedd yn ôl) – bu farw Hywel Teifi Edwards, llenor, hanesydd a chenedlaetholwr Cymreig.
- 1066 (958 blynedd yn ôl) – bu farw Edward y Cyffeswr, brenin Wessex a Lloegr
- 1460 (564 blynedd yn ôl) – trosglwyddwyd Arglwyddiaeth Dinbych i Siasbar Tudur (1431–1495), mab Owain Tudur
- 1589 (435 blynedd yn ôl) – bu farw Catrin de Medici, brenhines Ffrainc
- 1832 (192 blynedd yn ôl) – ganwyd Love Jones-Parry, un o sefydlwyr y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
- 1938 (86 blynedd yn ôl) – ganwyd y nofelwydd a dramodydd Ceniaidd Ngũgĩ wa Thiong'o
- 1968 (56 blynedd yn ôl) – dechreuad Gwanwyn Prâg
6 Ionawr: Nos Ystwyll; Dydd Gŵyl Aerdeyrn, Hywyn ac Eugrad
- 1199 (825 blynedd yn ôl) – cyflwynodd Llywelyn Fawr siarter i Abaty Aberconwy
- 1801 (223 blynedd yn ôl) – ganwyd yr hynafiaethydd Evan Davies (Myfyr Morganwg)
- 1905 (119 blynedd yn ôl) – bu farw Emrys ap Iwan, lladmerydd cynnar o'r Gymraeg
- 1905 (119 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd Idris Davies yn Rhymni
- 1934 (90 blynedd yn ôl) – bu farw Dorothy Edwards, nofelydd o Gymraes yn yr iaith Saesneg
- 1945 (79 blynedd yn ôl) – ganwyd y chwaraewr rygbi Barry John yng Nghefneithin, Sir Gaerfyrddin
7 Ionawr: Dydd Gŵyl Brannog a Chwyllog
- 1536 (488 blynedd yn ôl) – bu farw Catrin o Aragón, gwraig gyntaf Harri VIII
- 1796 (228 blynedd yn ôl) – ganwyd Charlotte Augusta, merch Siôr IV
- 1797 (227 blynedd yn ôl) – mabwysiadwyd baner drilliw'r Eidal yn swyddogol
- 1956 (68 blynedd yn ôl) – ganwyd y paffiwr pwysau bantam Johnny Owen
- 1975 (49 blynedd yn ôl) – bu farw John Ellis Williams, awdur Inc yn y Gwaed a thad y cymeriad 'Ianto Poitsi Poits'
- 2015 (9 mlynedd yn ôl) – cafwyd ymosodiad terfysgol angeuol ar bencadlys y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo
- 1642 (382 blynedd yn ôl) – bu farw y seryddwr a'r ffisegwr Galileo Galilei
- 1823 (201 blynedd yn ôl) – ganwyd y biolegydd a'r naturiaethwr Alfred Russel Wallace yn Llanbadog, Sir Fynwy
- 1879 (145 blynedd yn ôl) – ganwyd y botanegydd Eleanor Vachell yng Nghaerdydd
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – ganwyd y gantores Shirley Bassey yn Tiger Bay, Caerdydd
- 1942 (82 blynedd yn ôl) – ganwyd y ffisegwr Stephen Hawking
- 1965 (59 blynedd yn ôl) – bu farw'r cyfansoddwr a'r addysgwr Cymreig Thomas James Powell
- 1839 (185 blynedd yn ôl) – ganed y bardd Sarah Jane Rees (Cranogwen) yn Llangrannog
- 1886 (138 blynedd yn ôl) – agorwyd Twnnel Hafren yn swyddogol
- 1908 (116 blynedd yn ôl) – ganwyd yr awdures Ffrengig Simone de Beauvoir
- 1916 (108 blynedd yn ôl) – diwedd Brwydr Gallipoli
- 1917 (107 blynedd yn ôl) – ganwyd y chwaraewr rygbi Haydn Tanner ym Mhenclawdd.
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – yn yr 'Old Bailey', Llundain, dedfrydwyd D,J, Saunders a Valentine i 9 mis o garchar am losgi adeiladau byddin Lloegr ym Mhenyberth.
- 1778 (246 blynedd yn ôl) – bu farw'r biolegydd o Sweden Carolus Linnaeus
- 1833 (191 blynedd yn ôl) – y ganed Mynyddog, awdur geiriau 'Myfanwy'
- 1952 (72 blynedd yn ôl) – bu farw 23 yn namwain awyr Cwm Edno
- 1963 (61 blynedd yn ôl) – bu farw'r ysgolhaig G. J. Williams
- 1983 (41 blynedd yn ôl) – bu farw Carwyn James, chwaraewr rygbi'r undeb i Gymru
11 Ionawr Gwylfabsant Llwchaiarn, brawd Aelhaiarn a Chynhaiarn
- 1791 (233 blynedd yn ôl) – bu farw'r emynydd William Williams, Pantycelyn
- 1818 (206 blynedd yn ôl) – ganwyd Daniel Silvan Evans, offeiriad, geiriadurwr a bardd, yn Llanarth, Ceredigion
- 1902 (122 blynedd yn ôl) – bu farw Iago ap Ieuan (neu James James), a gyfansoddodd alaw'r anthem: Hen Wlad fy Nhadau
- 1939 (85 blynedd yn ôl) – ganwyd Phil Williams, gwyddonydd a gwleidydd, yn Nhredegar, Blaenau Gwent
- 1945 (79 blynedd yn ôl) – bu farw Caradoc Evans, nofelydd Cymreig yn yr iaith Saesneg
- 1628 (396 blynedd yn ôl) – Ganwyd Charles Perrault, bardd, llenor a beirniad llenyddol Ffrengig
- 1810 (214 blynedd yn ôl) – Ganwyd John Dillwyn Llewelyn, botanegydd a ffotograffydd cynnar Cymreig
- 1910 (114 blynedd yn ôl) – Ganwyd yr actores Almaenig Luise Rainer
- 1976 (48 blynedd yn ôl) – Bu farw'r nofelydd Agatha Christie
13 Ionawr: Hen Galan yng Nghwm Gwaun; Dydd Gŵyl Cyndeyrn a Sant Eilian
- 1887 (137 blynedd yn ôl) – Ganwyd y bardd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Gwynedd
- 1898 (126 blynedd yn ôl) – Cyhoeddodd Émile Zola ei erthygl J'Accuse, yn datgelu dichell byddin Ffrainc yn erlyn Alfred Dreyfus yn ddiachos
- 1919 (105 blynedd yn ôl) – Codwyd y Faner Goch yn ystod gwrthryfel ar HMS Kilbride yn Aberdaugleddau
- 1968 (56 blynedd yn ôl) – Bu farw'r Archdderwydd William Crwys Williams
- 1898 (126 blynedd yn ôl) – bu farw Lewis Carroll (Charles Dodgson), 65
- 1957 (67 blynedd yn ôl) – bu farw Humphrey Bogart, 57, actor
- 1958 (66 blynedd yn ôl) – dechreuodd TWW ddarlledu o Bontcanna
- 1968 (56 blynedd yn ôl) – bu farw Henry Lewis, ysgolhaig Cymreig o Ynystawe
- 2007 (17 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Cymreig Peter Prendergast.
15 Ionawr: Diwrnod Wicipedia a Gŵyl Mabsant Mwrog (Llanfwrog).
- 1622 (402 blynedd yn ôl) – ganwyd Molière, dramodydd († 1673)
- 1893 (131 blynedd yn ôl) – ganwyd Ivor Novello, actor, canwr a chyfansoddwr († 1951)
- 1895 (129 blynedd yn ôl) – bu farw Yr Arglwyddes Charlotte Guest, awdur a chyfieithydd
- 1992 (32 blynedd yn ôl) – cydnabyddwyd annibyniaeth Croatia a Slofenia
- 1929 (95 blynedd yn ôl) – ganwyd Martin Luther King († 1968)
- 27 CC – Pleidleisiodd Senedd Rhufain i roi'r enw "Augustus" i Octavianus.
- 1751 (273 blynedd yn ôl) – ganwyd Hester Thrale, ffrind Dr Johnson, yn Sir Gaernarfon fel Hester Lynch Salusbury (m. 1821)
- 1806 (218 blynedd yn ôl) – bu farw William Pitt y Ieuengaf, 46, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
- 1840 (184 blynedd yn ôl) – condemniwyd John Frost a dau arall o'r Siartwyr i farwolaeth
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – rhoddodd y myfyriwr Jan Palach ei hun i ar dân oherwydd ei wrthwynebiad i gyrch yr Undeb Sofietaidd ar ei wlad. Bu farw tridiau wedyn.
17 Ionawr: Gŵyl genedlaethol Menorca
- 1706 (318 blynedd yn ôl) – ganwyd Benjamin Franklin, un o sylfaenwyr Unol Daleithiau America
- 1863 (161 blynedd yn ôl) – ganwyd David Lloyd George, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
- 1896 (128 blynedd yn ôl) – bu farw Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, dyfeisydd y wisg Gymreig
- 1912 (112 blynedd yn ôl) – cyrhaeddodd y fforiwr Edgar Evans Begwn y De gyda Robert Falcon Scott
- 2003 (21 blynedd yn ôl) – bu farw Goronwy Daniel, pennaeth cyntaf gwasanaeth sifil y Swyddfa Gymreig a Phrifathro Prifysgol Aberystwyth.
- 1486 (538 blynedd yn ôl) – priododd y brenin Harri VII ac Elisabeth o Efrog, gan uno'r Lancastriaid a'r Iorciaid a dod â Rhyfeloedd y Rhosynnau i ben
- 1809 (215 blynedd yn ôl) – ganwyd y naturiaethwr John Gwyn Jeffreys yn Abertawe
- 1863 (161 blynedd yn ôl) – bu farw Mangas Coloradas, pennaeth yr Apache Chiricahua Dwyreiniol
- 1919 (105 blynedd yn ôl) – daeth Ignacy Jan Paderewski yn brif weinidog Gwlad Pwyl
- 1936 (88 blynedd yn ôl) – bu farw Rudyard Kipling, awdur The Jungle Book.
- 1810 (214 blynedd yn ôl) – ganwyd y bardd John Jones (Talhaiarn), yn Llanfair Talhaearn
- 1852 (172 blynedd yn ôl) – ganwyd Tom Price ym Mrymbo, Wrecsam a ddaeth yn Brif Weinidog De Awstralia
- 1881 (143 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd a'r beirniad llenyddol John Roose Elias
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – dedfrydwyd D. J. Williams, Lewis Valentine a Saunders Lewis i naw mis o garchar yn yr Old Bailey, Llundain
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – llosgodd y myfyriwr Tsiecaidd Jan Palach ei hun i farwolaeth ym Mhrag mewn protest yn erbyn goresgyniad Tsiecoslofacia gan luoedd Cytundeb Warsaw yn sgîl Gwanwyn Prag.
- 1920 (104 blynedd yn ôl) – ganwyd y cyfarwyddwr ffilmiau Eidalaidd Federico Fellini
- 1936 (88 blynedd yn ôl) – bu farw Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig, ac fe'i olynwyd gan Edward VIII
- 1971 (53 blynedd yn ôl) – bu farw Margaret Lloyd George, dyngarwraig ac un o ynadon benywaidd cyntaf gwledydd Prydain
- 1969 (55 blynedd yn ôl) – ganwyd Nicky Wire, chwaraewr bas y Manic Street Preachers, yn y Coed-duon, Caerffili
- 1993 (31 blynedd yn ôl) – bu farw'r actores Audrey Hepburn.
- 1793 (231 blynedd yn ôl) – dienyddiwyd Louis XVI, brenin Ffrainc, yn ystod y Chwyldro Ffrengig
- 1808 (216 blynedd yn ôl) – bu farw Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn, y tirfeddiannwr a pherchennog caethweision a ddatblygodd Chwarel y Penrhyn
- 1885 (139 blynedd yn ôl) – bu farw Ieuan Glan Geirionydd, bardd ac emynydd (Ar lan Iorddonen ddofn...)
- 1924 (100 mlynedd yn ôl) – bu farw'r chwyldroadwr Rwsiaidd Vladimir Ilyich Lenin
- 1950 (74 blynedd yn ôl) – bu farw'r llenor yn yr iaith Saesneg George Orwell
- 1900 (124 blynedd yn ôl) – bu farw David Edward Hughes, dyfeisiwr y meicroffon
- 1849 (175 blynedd yn ôl) – ganwyd August Strindberg, dramodydd, awdur ac arlunydd o Sweden
- 1875 (149 blynedd yn ôl) – ganwyd y cyfarwyddwr ffilmiau Americanaidd D. W. Griffith
- 1937 (87 blynedd yn ôl) – ganwyd y difyrrwr Ryan Davies yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin
- 2004 (20 mlynedd yn ôl) – bu farw Islwyn Ffowc Elis, nofelydd ac awdur Wythnos yng Nghymru Fydd
- 1714 (310 blynedd yn ôl) – ganwyd Howel Harris, un o arloeswyr y Diwygiad Methodistaidd, yn Nhrefeca, Powys
- 1893 (131 blynedd yn ôl) – bu farw'r meddyg, y derwydd a'r Siartydd Dr William Price
- 1970 (54 blynedd yn ôl) – bu farw Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru
- 1976 (48 blynedd yn ôl) – perfformiad cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru, yn Theatr y Sherman, Caerdydd
- 1989 (35 blynedd yn ôl) – bu farw'r arlunydd Catalanaidd Salvador Dalí
24 Ionawr: dydd gŵyl Cadog Sant
- 1712 (312 blynedd yn ôl) – ganwyd Ffredrig II neu Ffredrig Fawr, brenin Prwsia
- 1815 (209 blynedd yn ôl) – ganwyd Thomas Gee, y cyhoeddwr a sefydlodd Y Faner
- 1897 (127 blynedd yn ôl) – bu farw'r gantores opera Sarah Edith Wynne, "Eos Cymru", y Gymraes gyntaf i ddod i sylw rhyngwladol fel cantores
- 1904 (120 blynedd yn ôl) – bu farw'r telynor Hugh Hughes
- 1965 (59 blynedd yn ôl) – bu farw Winston Churchill, gwleidydd o Sais, yn 90 oed yn Llundain
25 Ionawr: Dydd Santes Dwynwen
- 41 (1983 blynedd yn ôl) – Daeth Claudius yn ymerawdwr Rhufain
- 1627 (397 blynedd yn ôl) – Ganwyd y cemegydd Robert Boyle yng Nghastell Lios Mór, Iwerddon
- 1759 (265 blynedd yn ôl) – Ganwyd Robert Burns, bardd yn yr iaith Sgoteg
- 1882 (142 blynedd yn ôl) – Ganwyd yr awdures Virginia Woolf
- 1947 (77 blynedd yn ôl) – Bu farw Al Capone, troseddwr a chyfaill Llewelyn Morris Humphreys
26 Ionawr: Gŵyl genedlaethol Awstralia
- 1841 (183 blynedd yn ôl) – Hong Kong yn cael ei ildio i Brydain ar brydles gan Tsieina
- 1921 (103 blynedd yn ôl) – damwain drên waethaf Cymru erioed: Damwain drên Sir Drefaldwyn
- 1965 (59 blynedd yn ôl) – Hindi yn cael ei datgan yn iaith swyddogol India
- 1993 (31 blynedd yn ôl) – Václav Havel yn arlywydd cyntaf y Weriniaeth Tsiec newydd
- 1970 (54 blynedd yn ôl) – bu farw Albert Evans-Jones (Cynan), bardd.
- 1790 (234 blynedd yn ôl) – ganwyd William Davies Evans, fforiwr a dyfeisydd 'Gambit Evans' mewn gwyddbwyll.
- 1829 (195 blynedd yn ôl) – ganwyd Isaac Roberts, seryddwr yn Groes, Conwy; († 1904)
- 1832 (192 blynedd yn ôl) – ganwyd Lewis Carroll, awdur († 1898)
- 1944 (80 blynedd yn ôl) – diwedd Gwarchae Leningrad (St Petersburg heddiw)
- 1866 (158 blynedd yn ôl) – bu farw John Gibson yn Rhufain, 75, cerflunydd o Gyffin, Conwy.
- 1985 (39 blynedd yn ôl) – bu farw David Ormsby-Gore (5ed Arglwydd Harlech), a roddodd ei enw i Deledu Harlech, mewn damwain car ar yr A5.
- 1457 (567 blynedd yn ôl) – ganwyd Harri Tudur (m. 1509)
- 1547 (477 blynedd yn ôl) – bu farw Harri VIII, brenin Lloegr (m. 55 oed)
- 1856 (168 blynedd yn ôl) – cyfansoddwyd Hen Wlad fy Nhadau gan Evan a James James, Pontypridd
- 1841 (183 blynedd yn ôl) – ganwyd Henry Morton Stanley yn Ninbych, newyddiadurwr a fforiwr (m. 1904)
- 1858 (166 blynedd yn ôl) – ganwyd y fforiwr Edgeworth David yn Sain Ffagan (m. 1934)
- 2014 (10 mlynedd yn ôl) – bu farw Nigel Jenkins, bardd Cymreig.
- 1635 (389 blynedd yn ôl) – sefydlwyd yr Académie française
- 1711 (313 blynedd yn ôl) – y bedyddiwyd y telynor dall Dafydd y Garreg Wen (Dafydd Owen)
- 1860 (164 blynedd yn ôl) – ganwyd y dramodydd Rwsiaidd Anton Chekhov
- 1909 (115 blynedd yn ôl) – ganwyd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1966 a 1968
- 1963 (61 blynedd yn ôl) – bu farw'r bardd Robert Frost yn San Francisco
30 Ionawr: Gŵyl Mabsant y seintiau Tybïe a Peithien
- 1826 (198 blynedd yn ôl) – agorwyd Pont y Borth yn swyddogol
- 1948 (76 blynedd yn ôl) – bu farw Mohandas Gandhi, 78, gwleidydd
- 1972 (52 blynedd yn ôl) – saethwyd 14 o sifiliaid Catholig yn farw gan filwyr Lloegr yn y gyflafan a elwir yn Bloody Sunday
- 1974 (50 mlynedd yn ôl) – ganwyd Christian Bale yn Hwlffordd, actor
- 2007 (17 blynedd yn ôl) – bu farw Griffith Jones, actor
31 Ionawr Dydd Gŵyl Tysul, Aeddan ac Ewryd
- 1606 (418 blynedd yn ôl) – bu farw Guto Ffowc, milwr a chynllwynwr
- 1797 (227 blynedd yn ôl) – ganwyd y cyfansoddwr Awstriaidd Franz Schubert
- 1943 (81 blynedd yn ôl) – bu farw Robert Armstrong-Jones, meddyg o Gymro
- 1980 (44 blynedd yn ôl) – bu farw Jesse Owens, athletwr
- 2000 (24 blynedd yn ôl) – ffurfiwyd Cymru Annibynnol, plaid wleidyddol weriniaethol