Wicipedia:Cysylltwch â ni am gymorth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn gyffredinol, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gallant ddatrys problemau maent yn eu canfod eu hunain ac fe'u hanogir i wneud hynny, neu geisio datrys yr anghydfod os oes anghydweld o fewn y Dudalen Sgwrs.
Blwch cymorth:
Mynegai: Tiwtorial · Canllaw Pum Munud · Cwestiynau Cyffredinol / FAQs · Gofynwch Gwestiwn · Geirfa · Y Ddesg Gymorth · Chwilio'r holl Pynciau |
Wicipedia:Cymorth |
Mae gan ddefnyddwyr ddwy brif ffordd i gysylltu â Wicipedia:
- Y gymuned olygyddol sy'n gyfrifol am bron pob penderfyniad am gynnwys erthygl ac anghydfodau golygyddol. Ceir prosesau manwl i helpu datrys anghydfodau. Gyda'r mwyafrif llethol o achosion, caiff anghydfodau eu datrys gan y gymuned, yn ôl cytundeb cymunedol a gytunir gan Bolisïau a chanllawiau'r Wicipedia Cymraeg.
- Mae'r ebost mnewnol Wici (ewch i dudalen defnyddiwr ac fel arfer fe welwch ei ebost ar y chwith) yn galluogi rhai problemau i gael eu harchwilio gan y tîm ymateb gwirfoddol (e.e. Gweinyddwyr) mewn materion golygyddol a materion eraill sy'n effeithio ar gyfranwyr a darllenwyr. Mae'r ebost yn ddull effeithiol mewn achosion lle mae delio â'r sefyllfa mewn modd gyfrinachol yn bwysig. Gelwir y defnyddwyr profiadol hyn yn "dîm ymateb gwirfoddol".
Gwneir penderfyniadau golygyddol cyffredinol gan y gymuned olygyddol; byddant yn cynghori ac yn gweithredu mewn rhai achosion, ond ni fyddant yn anwybyddu nac yn newid penderfyniadau cymunedol heb fod cefnogaeth o'r gymuned.
Lle i fynd?
Y drefn arferol ydy: 1. Nodi'r ffeithiau ar y Dudalen Sgwrs neu'r Ddesg Gyfeiriol. 2. Nodi ar Sgwrs Wicipedia:Gweinyddwyr 3. Y Caffi 4. Mewn materion sensitif anfonwch ebost at un o'r tîm ymateb gwirfoddol. 5. Ebostiwch Wici Cymru: wicipediacymraeggmail.com