Ysgwydd felen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Math a rhywogaeth o ffwng yn nheulu'r Fomitopsidaceae yw'r Ysgwydd felen (Lladin: Laetiporus sulphureus; Saesneg: Chicken of the Woods).[1] 'Yr Ysgwyddau' yw'r enw ar lafar ar y grwp mae'r ffwng yma'n perthyn iddo, ond nid yw'n derm gwyddonol. Fel yr ysgwydd, mae'r ffyngau yn y grwp yma'n llorweddol, yn tyfu allan ac ar draws o fonyn y goeden. Mae'r teulu Fomitopsidaceae yn gorwedd o fewn urdd y Polyporales.
Ysgwydd felen Laetiporus sulphureus | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Fungi |
Dosbarth: | Basidiomycota |
Urdd: | Polyporales |
Teulu: | Fomitopsidaceae |
Genws: | Laetiporus[*] |
Rhywogaeth: | L. sulphureus |
Enw deuenwol | |
Laetiporus sulphureus (Bull.) Murrill | |
Cyfystyron | |
Species synonymy
|
Gellir bwyta'r ffwng hwn ond mae rhai pobl yn cael eu heffeithio ganddo.
Mae'r rhywogaeth hon o ffwng i'w chael yn Ewrop a Gogledd America.
Disgrifiwyd yr Ysgwydd felen yn gyntaf fel Boletus sulphureus gan y mycolegydd Ffrengig Pierre Bulliard ym 1789. Mae ganddo lawer o gyfystyron ac o'r diwedd cafodd ei enw cyfredol ym 1920 gan y mycolegydd Americanaidd William Murrill. Ystyr laetiporus yw "gyda mandyllau llachar" ac mae sylffwrws yn golygu lliw sylffwr (melyn).
Lliw sborau'r fadarchen hon yw gwyn. O ran siâp, disgrifir y capan, neu gap y fadarchen fel un fflat. Gelwir y rhan oddi tan y capan yn hadbilen (neu'n 'hymeniwm') a cheir sawl math: arwyneb llyfn, tegyll, chwarennau (tyllau bychan), rhychau ayb; mae gan y fadarchen hon yr hyn a elwir yn: mandyllog. O ran y broses o gymeryd maeth, fe'i disgrifir fel maethiad saproffytig.