Yuval Noah Harari
From Wikipedia, the free encyclopedia
Hanesydd Israeliaidd ac athro yn yr Adran Hanes ym Mhrifysgol Hebraeg Jerusalem yw Yuval Noah Harari (Hebraeg: יובל נח הררי}}; ganwyd 24 Chwefror 1976).[1] Ef yw awdur y cyfrolau Sapiens: A Brief History of Humankind (2014), Homo Deus: A Brief History of Tomorrow (2016), a 21 Lessons for the 21st Century (2018). Mae ei ysgrifau yn trafod ewyllys rydd, ymwybyddiaeth a deallusrwydd.
Yuval Noah Harari | |
---|---|
Ganwyd | יובל נח הררי 24 Chwefror 1976 Kiryat Ata, Haifa |
Man preswyl | Mesilat Zion |
Dinasyddiaeth | Israel |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, arbenigwr yn yr Oesoedd Canol, popular science author, hanesydd milwrol, athronydd, ysgrifennwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Sapiens: A Brief History of Humankind, Homo Deus: A Brief History of Tomorrow, 21 Lessons for the 21st Century |
Prif ddylanwad | Jared Diamond, S. N. Goenka |
Gwobr/au | Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel |
Gwefan | https://www.ynharari.com |
llofnod | |
Mae cyhoeddiadau cynnar Harari trafod yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "chwyldro dirnadol" a ddigwyddodd tua 50,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gafodd Neanderthaliaid eu disodli gan Homo sapiens, gan ddatblygu sgiliau ieithyddol a chymdeithasau strwythuredig, ac esgyn fel ysglyfaethwyr apig , gyda chymorth y chwyldro amaethyddol a gyflymwyd yn ddiweddar gan fethodoleg a rhesymeg wyddonol sydd wedi galluogi'r ddynoliaeth i gyrraedd y nesaf peth ar feistrolaeth o'u hamgylchedd.
Mae ei lyfrau diweddar yn fwy rhybuddiol, ac yn gweithio trwy oblygiadau byd biodechnolegol ble mae creadigaethau yn rhagori ar yr organebau deallus sydd wedi'u creu yn y lle cyntaf. Mae'n proffwydo y bydd Homo sapiens, fel ag yr ydym ni'n eu hadnabod, yn diflannu mewn tua chanrif.[2]